Cefndir i’r Catalog
- Rhestrir ar y Catalog manylion archifau hanesyddol swyddogol Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â manylion am roddion archifau personal ymchwilwyr a ddelir gan Lyfrgell y Brifysgol yn SCOLAR, ar ystod eang o bynciau. Dangosir y Catalog ddisgrifiadau o gasgliadau archifau cyflawn, a hefyd llawer o fanylion am ddogfennau unigol.
- Bydd chwiliadau yn edrych am eich geiriau penodol yn y Catalog, felly efallai y bydd angen edrych am eiriau amgen am eich pwnc hefyd, er enghraifft, ffotograffau, lluniau, darluniau, etc. Defnyddiwch yr arwydd * ar ddiwedd gair er mwyn gweld pob enghraifft o’r gair, e.e., dangosir y gair llong* y geiriau llong, llongau, llongddrylliad, etc.
- Dangosir canlyniadau ymholiad mewn tabl; gellir ail-drefnu’r canlyniadau gan glicio ar bennawd perthnasol y golofn yn y tabl.
- Cliciwch ar gofnod yn y Catalog, yn rhestr y canlyniadau, er mwyn gweld manylion pellach am yr archif. Mae trefn hierarchaidd y cofnod yn egluro cyd-destun dogfen o fewn y casgliad ehangach. Wrth glicio ar Gyfeirnod y casgliad gwelir strwythur yr archif yn ymddangos, sy’n galluogi pori ymhellach yn y casgliad hwnnw.
- Hyd yn hyn nid yw pob archif wedi ei gatalogio; anfonwch neges e-bost atom os hoffech ragor o wybodaeth am ein harchifau hanesyddol.